Mae disgwyl y bydd 350 o gynrychiolwyr busnes o Gymru a Lloegr yn bresennol mewn uwchgynhadledd i drafod sut i gryfhau cysylltiadau rhwng economi de Cymru a de-orllewin Lloegr.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Alun Cairns yn cynnal Uwchgynhadledd Twf Hafren yng ngwesty’r Celtic Manor ddiwedd y mis.

Nod y gynhadledd yw trafod sut y gall cysylltiadau rhwng economi de Cymru a de-orllewin Lloegr gael eu cryfhau, a hynny yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth San Steffan ddiwedd y llynedd y byddai tollau pontydd Hafren yn cael eu diddymu yn hwyrach eleni.

“Awydd” i gydweithio

 “Mae’r ffaith bod y digwyddiad hwn wedi gwerthu allan mor gyflym yn dangos yn glir yr awydd sydd yno i ddod â phobol a diwydiannau o ddwy ochr y ffin yn agosach at ei gilydd”, meddai Alun Cairns.

“Mae’r digwyddiad hwn yn ddechreuad i sgwrs bwysig a fydd yn trawsnewid dyfodol economaidd a diwylliannol de Cymru a de-orllewin Lloegr.”