Fe fydd banc HSBC yn cadarnhau yfory y bydd 10,000 o bobol yn colli eu swyddi.

Mae disgwyl i’r banc hefyd gyhoeddi ffigyrau siomedig ar gyfer y busnes dros y chwe mis rhwng Ionawr 1 a Mehefin 30 eleni.

Mae fory yn ddechrau tymor o ganlyniadau hanner-blwyddyn, a does yna ddim disgwyl canlyniadau da ar gyfer hanner cyntaf 2011.

Mae disgwyl i Barclays, Lloyds Banking Group a Royal Bank of Scotland gyhoeddi gostyngiad mewn elw am y cyfnod dan sylw.

Mae disgwyl i HSBC gyhoeddi elw cyn-treth o $10.9 biliwn (£6.7 biliwn) – i lawr o $11.1 biliwn (£7 biliwn).