Bws National Express
Mae un o brif cyfranddalwyr y cwmni teithio National Express wedi cefnogi cynlluniau i ddiwygio’r gwasanaeth bysiau a threnau.

Mae’r teulu Cosmen o Sbaen, sy’n berchen ar 17.4% o National Express, wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi symudiadau gan Elliott Advisors i roi tri chyfarwyddwr o’u dewis nhw ar fwrdd y cwmni a newid cyfeiriad yn llwyr.

Elliott Advisors, cronfa fuddsoddi o America, sydd biau 17.5% o’r cwmni, ac mae’n cyfarfod â buddsoddwyr ar hyn o bryd, gan drio crynhoi cefnogaeth i’r opsiynau a fyddai’n anelu at wneud National Express yn gystadleuydd go iawn yn erbyn Stagecoach, ac efallai werthu eu hadain Americanaidd.

Mae angen cefnogaeth 50% o gyfranddalwyr National Express ar Elliott Advisors os ydyn nhw am lwyddo i basio’r cynlluniau diweddaraf hyn yn y cyfarfod blynyddol fis nesaf.