Mae trafodaethau ar droed i geisio achub cartref gofal ym Mhowys rhag gorfod cau.

Yn ôl yr awdurdod lleol, mae cartref gofal Fronheulog yn Llandrindod yn wynebu “heriau ariannol” sydd yn deillio o gostau cynnal a chadw ac atgyweirio.

Mae Cyngor Powys, Llywodraeth Cymru ynghyd â pherchnogion y cartref gofal – yr elusen  Hafal Crossroads – yn rhan o’r ymdrech i achub y cartref.

Tawelu meddyliau

“Hoffwn dawelu meddwl y trigolion a’u teuluoedd a dweud bod y cyngor yn gweithio’n galed i sicrhau bod iechyd a lles preswylwyr yn dod yn gyntaf,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor.

“Bydd hyn yn arbennig o wir os nad ydym yn medru cael hyd i ateb ariannol ac mae’r cartref yn wynebu cau.”