Tafarn Dolaucothi (Llun Ruth Joy 2013 ar wefan y dafarn)
Mae rhent tafarn yng ngogledd Sir Gaerfyrddin sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, wedi codi o £4,500 i £15,000 mewn pum mlynedd.

Mae tafarn Dolaucothi ym Mhumsaint yn cael ei hysbysebu am brydles pum mlynedd gwerth £25,000, gyda rhent blynyddol o £15,000.

Pâr o Swydd Berkshire sy’n rhedeg yr adeilad rhestredig gradd II ar hyn o bryd, ac maen nhw wedi penderfynu “symud ymlaen” gan gydnabod fod gwneud elw mewn ardal wledig yn her.

Rhent

Mae’r pâr, Esther Hubert a David Joy, yn esbonio eu bod wedi cymryd awenau’r lle bum mlynedd yn ôl gyda’u rhent yn codi o flwyddyn i flwyddyn, a’u bod erbyn hyn yn talu tua £12,000 y flwyddyn.

Mae llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cadarnhau fod y “rhent blynyddol wedi dechrau ar £4,500 y flwyddyn bum mlynedd yn ôl ac roedd wedi’i osod ar raddfa lithro yn y gobaith i ddenu’r tenantiaid gorau gyda’r bwriad y bydden nhw’n ei adeiladu fel busnes newydd.

“Yn dilyn adnewyddiad a buddsoddiad mawr, mae rhent presennol Dolaucothi Arms, sy’n cael ei hysbysebu islaw rhent y farchnad, wedi cael ei osod yng ngoleuni ei fod nawr yn cael ei redeg yn llwyddiannus a chynaliadwy,” meddai’r llefarydd.

‘Symud ymlaen’

Mae Esther Hubert yn dweud nad yw hi’n “synnu” fod y rhent wedi codi am fod y busnes erbyn hyn yn “llwyddiannus” gyda bar, bwyty a gwely a brecwast.

“Pan wnaethon ni ddechrau roedd e’n gragen wag, ac mae’r Ymddiriedolaeth wedi gwneud gwaith da o adnewyddu’r tu fewn, a doedd e ddim wedi cael ei redeg am fwy na phum mlynedd cyn hynny,” meddai Esther Hubert fydd yn gadael y dafarn ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

“O gymharu ag eiddo tebyg, dw i’n meddwl fod ei werth yn eithaf da. Doeddwn i ddim wedi fy synnu,” meddai wrth gyfeirio at y rhent.