Llun: BAE Systems
Mae cwmni BAE Systems yn bwriadu cael gwared a bron i 2,000 o swyddi mewn ymgais i droi’r busnes yn fwy “effeithlon a chystadleuol.”

Bydd y toriadau mwyaf  ym maes milwrol y cwmni, ac mae disgwyl i 1,400 o swyddi ddiflannu yn yr adran yma dros y tair blynedd nesaf.

Bydd cannoedd o swyddi hefyd yn diflannu yng ngwasanaethau morwrol a chudd-wybodaeth y cwmni.

Gweithwyr ar safleoedd y cwmni yn Sir Gaerhirfryn, lle mae awyrennau Eurofighter Typhoon yn cael eu cynhyrchu, Swydd Efrog, Norfolk, Portsmouth a Llundain sydd yn debygol o gael eu heffeithio.

“Bydd y newidiadau strwythurol yr ydym yn cyhoeddi heddiw yn cyflymu ein hesblygiad fel ein bod yn fwy effeithlon a chystadleuol, gyda ffocws newydd ar dechnoleg,” meddai Prif Weithredwr BAE Systems, Charles Woodburn.

“Newyddion ofnadwy”

“Dyma newyddion ofnadwy i weithwyr BAE ac i gymunedau ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai Aelod Seneddol Llanelli a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Cysgodol, Nia Griffith.

“Mae’n hen i bryd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd i’r afael â’r ansicrwydd sydd yn effeithio’r diwydiant, ac i gynnig cynllun brys i achub y swyddi yma.”