Paul Clement, rheolwr Abertawe (Llun: golwg360)
Mewn cyfarfod yn Llundain heddiw, mae clybiau Uwch Gynghrair Lloegr wedi methu â dod i gytundeb tros a ddylai ‘prif glybiau’ yr Uwch Gynghrair dderbyn mwy o arian na’r gweddill am ddarlledu eu gemau ar y teledu dramor.

Roedd y clybiau wedi’u hollti’n ddwy dros y cynlluniau, a bydd y mater yn cael ei drafod ymhellach yn eu cyfarfod fis nesaf.

Ar hyn o bryd, mae pob clwb yn derbyn yr un faint o arian, lle bynnag y bon nhw yn y tabl ar ddiwedd y tymor blaenorol.

Mae’n debyg bod Abertawe ymhlith y clybiau oedd yn gwrthwynebu newid y drefn bresennol, lle mae’r clybiau wedi derbyn yr un faint o arian bob tymor ers sefydlu’r Uwch Gynghrair chwarter canrif yn ôl.

Yr arian ar y bwrdd

Derbyniodd pob clwb £39m yr un o’r pot gwerth £3bn y tymor hwn, a hynny ar sail y ffaith fod pob clwb yn ymddangos ar y teledu 10 gwaith yn ystod y tymor. Mae pob clwb yn derbyn £1.2m ychwanegol am bob gêm dros y 10.

Ond mae’r prif glybiau – Manchester United, Manchester City, Lerpwl, Arsenal, Tottenham Hotspur a Chelsea  – eisiau dirwyn y drefn honno i ben ar ddiwedd y tymor, a graddio’r taliadau fesul perfformiad yn y tabl.

Cafodd cynnig ei gyflwyno’r wythnos ddiwethaf lle byddai 35% o’r refeniw yn cael ei rannu fesul perfformiad yn y tabl, a’r gweddill yn cael ei rannu’n gyfartal.

Yn ôl y drefn honno, byddai’r clwb ar waelod y tabl yn derbyn £12m yn llai ar gyfer y tymor.

Meddwl am newid…

Er mwyn newid y drefn bresennol, sy’n dod i ben yn 2019, byddai angen cytundeb dau draean o glybiau’r Uwch Gynghrair – sef saith ohonyn nhw. Ond doedd hynny ddim wedi digwydd yn ystod y cyfarfod.

Roedd y cyfarfod heddiw’n cael ei ddisgrifio fel “yr un pwysicaf yn hanes yr Uwch Gynghrair”. 

Mae prif hyfforddwr Abertawe, Paul Clement wedi dweud bod rhaid i’r Uwch Gynghrair barhau’n gystadleuol ar gyfer pob tîm.