Llun: Ford
Mae cwmni Ford wedi dweud ei fod yn “siom” bod cytundeb â chwmni Jaguar Land Rover  yn dod i ben tri mis yn gynharach na’r disgwyl.

Bellach mi fydd cytundeb i ddarparu injans i Jaguar Land Rover  o safle Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn dod i ben ym mis Medi 2020 yn hytrach na diwedd y flwyddyn.

“O ystyried ein perthynas hir a llewyrchus o ran darparu injans o’r safon uchaf, mae’r newyddion yma yn siom i ffatri Pen-y-bont ar Ogwr,” meddai Ford mewn datganiad.

O’r 650,000 sydd yn cael eu hadeiladu i Jaguar Land Rover  bob blwyddyn mae 145,000 ohonyn nhw yn cael eu hadeiladu yn ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae undeb y GMB wedi ymateb i’r newyddion trwy ddweud y bydd yn “cael effaith andwyol ar gymunedau”, tra bod undeb Unite wedi galw am “gydweithio”.