(llun: PA)
Mae un o’r prif asiantaethau sy’n graddio rhagolygon ariannol gwledydd wedi gostwng sgôr credyd Prydain yn sgil ofnau am effeithiau economaidd Brexit.

Mae’r sgôr o Aa2 y mae Moody’s wedi’i ddyfarnu i Brydain yn ddau ricyn yn is na sgôr uchaf yr asiantaeth.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r rhagolygon o ran cyllid cyhoeddus wedi gwanhau’n sylweddol ac mae disgwyl i lefelau dyledion godi.

“Mae Moody’s yn credu y bydd penderfyniad lywodraeth y Deyrnas Unedig i adael marchnad sengl ac undeb tollau’r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019 yn negyddol i ragolygon twf economaidd tymor canolig y wlad,” meddai’r asiantaeth mewn datganiad.

Mewn ymateb, dywedodd Syr Vince Cable, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, nad cyd-ddigwyddiad oedd i’r israddio ddilyn araith allweddol Theresa May yn Florence ddoe.

“Dydym ni ddim nes at wybod beth fydd ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd unwaith y bydd unrhyw gytundeb pontio wedi dod i ben,” meddai.

“Y rhybudd gan Moody’s wrth israddio’r sgôr credyd yw y bydd yr economi’n wanach unwaith y bydd y cytundeb wedi bod i ben.

“Y cyfan mae May wedi’i wneud yw gohirio’r boen economaidd a achosir gan Brexit eithafol.”