Mae Admiral yn creu bron i 200 o swyddi newydd yng Nghaerdydd.
Fe fydd y swyddi newydd yn cael eu creu wrth i’r cwmni yswiriant ehangu i’r farchnad benthyciadau personol, ac i’r cwmni gynnig benthyciadau personol a chyllid ceir ar-lein.
Caiff y 193 o swyddi gwerthu a gwasanaethu cwsmeriaid eu creu yn dilyn cais llwyddiannus Admiral am grant o £668,500 gan y cynllun Cyllid Busnes ar gyfer creu swyddi.
Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cyflogi dros 9,000 o bobol mewn wyth gwlad, gyda thros 6,000 ohonyn nhw yng Nghymru.
“Cymru yw un o’r canolfannau gwasanaethau ariannol sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig,” meddai Geraint Jones, Prif Swyddog Cyllid Admiral. “Mae Admiral wrth ei fodd yn cael lansio ei fenter newydd yn y farchnad fenthyca yng Nghaerdydd, ein dinas ni.”