Tafarn Sinc (Llun: Gwefan Cymdeithas Tafarn Sinc)
Gwnaeth 60 o ymgyrchwyr cymunedol ymgynnull yng ngogledd Sir Benfro nos Lun (Medi 18) er mwyn trafod dyfodol tafarn eiconig yn yr ardal.

Mae Tafarn Sinc ym mhentref Rhos-y-bwlch ger Maenclochog wedi bod ar werth ers mis Ionawr a hyd yma mae ymgyrchwyr lleol wedi llwyddo i godi £135,000.

Nod Cymdeithas Tafarn Sinc yw codi £295,000 erbyn Hydref 28 pan fydd y perchnogion presennol, Hafwen a Brian Davies, yn gadael wedi 25 mlynedd wrth y llyw.

Mae modd i aelodau’r cyhoedd gyfrannu at yr ymgyrch trwy brynu cyfranddaliadau yn y dafarn sy’n werth £200, neu trwy ymuno â’u cynllun i gyfoedion gan gyfrannu £5,000.

“Amser yn brin”

“Gwnaethom gadarnhau ein bwriad i fwrw ymlaen a phrynu Tafarn Sinc,” meddai un o aelodau Cymdeithas Tafarn Sinc, Hefin Wyn, wrth golwg360. “Roedd y naws yn obeithiol iawn.”

“Cyfarfod oedd e i hysbysu’r boblogaeth yn lleol ynglŷn â ble rydym ni arni ar hyn o bryd, i’w cadw nhw yn y darlun. I ddweud bod yn rhaid i ni ddal ati, bod amser yn brin. Ar y cyfan, roedd pawb yn gefnogol ac yn gofyn cwestiynau perthnasol.”

Mae’r ymgyrchwyr lleol yn anelu i godi £200,000 erbyn diwedd Medi ac yn gobeithio codi cyfanswm  o £375,400 yn y pendraw.