James Murdoch (Lllun: Esther Dyson)
Mae cais gwerth £11.57bn gan gwmni 21st Century Fox i brynu cwmni Sky, yn gyfle i brofi bod Prydain ôl-Brexit “wir yn agored i fusnes”.
Dyna ddywedodd Prif Weithredwr Fox, James Murdoch, wrth siarad yng nghynhadledd y Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) heddiw (Medi 14).
Daeth y sylw ychydig oriau wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi eu bod wedi cyfeirio’r ddêl i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd oherwydd pryderon am blwraliaeth y wasg.
Bydd cynnwys a geiriad sylwadau James Murdoch yn siŵr o gael eu dehongli fel rhybudd a her i weinyddiaeth Theresa May.
Agored i fusnes?
“Mae buddsoddiad mewnol yn economi greadigol y Deyrnas Unedig … yn bwysicach nag erioed wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i lunio’i llwybr tu allan i’r Undeb Ewropeaidd,” meddai James Murdoch.
“Os ydy’r Deyrnas Unedig wir yn agored i fusnes wedi Brexit, edrychwn ymlaen at symud trwy broses yr adolygiad rheoleiddio, ac at y [ddêl rhwng Fox a Sky] yn profi bod yr honiad yna yn wir.”