Tata, Port Talbot (Llun: PA)
Mae cwmni dur Tata wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi £2m mewn dau o’i weithfeydd yng ngwledydd Prydain, wrth iddo ymrwymo i ddal ati i gynhyrchu offer ar gyfer diwydiant olew a nwy Mor y Gogledd.

Fe fydd y buddsoddiad yn digwydd yng ngweithfeydd Port Talbot a Hartlepool.

“Mae’r buddsoddiad pwysig hwn yn dangos ein bod ni wedi ymrwymo i iechyd a diogelwch ac i ehangu’r cynnyrch ydan ni’n ei ddarparu ar gyfer y diwydiant olew a nwy ledled y byd,” meddai llefarydd ar ran Tata.

“Rydyn ni wedi bod yn rhan o rhai o brosiectau mwya’r byd dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddal ati i gefnogi’r diwydiant ym Mor y Gogledd ac yn rhyngwladol am lawer o flynyddoedd i ddod.”