Mae cymunedau glan môr yn dioddef mwy o dlodi nag ardaloedd mewndirol eraill yn y Deyrnas Unedig, yn ôl adroddiad newydd.

Gan gymryd cyflogau, iechyd ac addysg i ystyriaeth, mae ’na fwlch sylweddol rhwng trefi glan môr a chymunedau mewndirol, meddai’r adroddiad.

Er i Lywodraeth San Steffan addo buddsoddi £40 miliwn mewn cymunedau arfordirol er mwyn hybu cyflogaeth a thwristiaeth, mae’r adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan BBC Breakfast, yn dangos bod yr arian yn cael ei wario mewn ardaloedd mwy poblog ar draul cymunedau eraill.

Cyflogau Gwynedd 

Yn ôl y ffigyrau, roedd lefel y cyflogau mewn 85% o’r 98 awdurdod lleol arfordirol yn y Deyrnas Unedig yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer 2016 – gyda gweithwyr mewn cymunedau glan môr yn ennill £3,600 yn llai nag yn unman arall.

Yng Nghymru, mae’n ymddangos bod Gwynedd ymhlith y siroedd lle mae lefel cyflogau gweithwyr ar eu hisaf.

Mae Castell-nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Sir Gaerfyrddin yn cyfri’ am hanner o’r 20 awdurdod lleol arfordirol yng Nghymru a Lloegr sy’n cynnwys y lefel uchaf o unigolion sy’n dioddef o iechyd gwael.

Dim cysylltiad ag ardaloedd lle mae swyddi

Yn ôl yr economegydd ac awdur yr adroddiad, Scott Corfe, mae’r ffaith bod gan nifer o’r cymunedau hyn ddim “cysylltiad” â phrif ganolfannau cyflogi’r Deyrnas Unedig yn cyfrannu at yr “anawsterau” y mae eu trigolion yn gorfod wynebu.

“Nid yn unig maen nhw’n brin o gyfleoedd am swyddi lleol”, meddai, “ond maen nhw hefyd yn gorfod teithio i lefydd eraill am waith – sy’n anhawster pellach.”

“Mae angen i’r Llywodraeth wneud rhagor i ddarganfod a thaclo’r problemau economaidd sy’n bodoli yn ein cymunedau glan môr.”