Gwesty'r Llew Du ar y Stryd Fawr (Llun: golwg360)
Mae Maer ac un o gynghorwyr Llanbedr Pont Steffan wedi mynegi pryder am ddyfodol stryd fawr y dref wrth i siop a thafarn gau.

Daeth datganiad gan gwmni SA Brains heddiw (dydd Mercher, Awst 30) yn cadarnhau y bydd tafarn y Llew Du yn cau ar ddiwedd mis Medi, gan roi 17 o swyddi yn y fantol.

Eisoes mae siop Spar yng nghanol y dref wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cau gyda 12 o bobol yn cael eu cyflogi yno.

‘Cwmwl’

“Mae’n mynd i fod fel cwmwl dros y dref, ac mae’n rhywbeth sy’n poeni fi yn enfawr,” meddai Elin Tracey Jones, un o gynghorwyr tref Llanbedr Pont Steffan.

“Mae llawer o fusnesau yn dod i mewn i’r dref, ond mae’r siopau gwag yn gwneud i’r lle edrych yn drist iawn.”

Ac yn ôl y Maer, Hag Harris, “cystadleuaeth” sydd i gyfrif am dranc siop Spar wrth i siopau eraill gan gynnwys Sainsbury’s, Co-op a Premier agor yn hwyr, ac wrth i siop Greggs hefyd gymryd ei lle ar y stryd fawr.

Gwesty’r Llew Du

Mewn datganiad mae llefarydd ar ran cwmni Brains yn cadarnhau eu bod yn cau’r gwesty oherwydd “cwymp mewn refeniw gwerthiant sydd wedi gadael y busnes yn amhroffidiol”.

Mae’r cwmni’n dweud iddo wario £40,000 ar gostau cynnal a chadw yn 2013-2014 ond – “yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb, mae’r lefel o fuddsoddiad sydd ei angen i ddod â’r Llew Du yn ôl i’r safon sydd ei angen yn costio mwy na £1.2 m ac rydym o’r farn nad yw bellach yn fusnes hyfyw”.

“Rydym mewn trafodaethau â’r 17 o staff sydd wedi’u heffeithio i ddod o hyd i swyddi eraill iddyn nhw a hoffem ddiolch iddyn nhw am eu dealltwriaeth gyda’r mater hwn,” meddai’r cwmni wedyn.  

“Fe fyddwn ni’n edrych ar gyfleoedd i fuddsoddi mewn eiddo eraill yn Llanbed – gan gynnwys Gwesty’r Castell ar y Stryd Fawr.”

Datblygu

Mae’r cwmni hefyd yn dweud nad ydynt wedi llwyddo i gael caniatâd cynllunio i ddatblygu eiddo y tu ôl i’r safle, ond yn ôl Hag Harris – “dyw’r cais ddim wedi cael ei gwblhau eto, mae yn y broses”.

Ychwanegodd y Maer ei fod am weld y gwesty’n cael ei rhoi ar y farchnad i greu “cyfleoedd i rywun brynu a datblygu busnes yno.”

“Dydyn ni ddim eisiau colli unrhyw fusnes, ond mae’r Llew Du yn westy mawr ac yn rhywle y gall bobol ddod yma i aros yn Llanbed.”