Gorsaf Aberystwyth (Julian Nitzsche CC-BY-SA 3.0)
Mae ailagor y lein rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin wedi dod gam yn nes wrth i waith ymchwil ddechrau i weld a yw’r cynllun yn bosib.

Ar ôl oedi ynghynt eleni, fe fydd yr astudiaeth gwerth £300,000 yn dechrau ym mis Medi a’r disgwyl yw y gallai gyflwyno adroddiad yn y gwanwyn.

Fe ddywedodd mudiad sy’n ymgyrchu i ailagor y lein eu bod nhw’n hyderus y bydd yr adroddiad yn ffafriol.

Bron y cyfan ‘ar gael’

“R’yn ni wedi archwilio holl lwybr o’r hen lein ac mae 97% ohoni yn dal i fod ar gael,” meddai Cadeirydd y mudiad Traws Link Cymru wrth Golwg360.

Mae’r broblem fwya’ yn ardal Aberystwyth, meddai Adrian Kendon o Lanbedr Pont Steffan, ond fe fyddai modd adeiladu twnnel i osgoi mannau lle bu datblygu.

Mewn mannau eraill, fe fyddai angen prynu tir y rheilffordd yn ôl oddi ar ffermwyr – “fe fydd rhai’n anfodlon ond dw i’n siŵr bod modd goresgyn yr anawsterau hynny.

Gweddnewid economi

Fe fyddai ailagor y rheilffordd – a gaewyd yng nghyfnod Beeching yn yr 1960au – yn hwylus i bobol Ceredigion a rhannau o Sir Gaerfyrddin, meddai, ac fe allai weddnewid yr economi lleol.

“Mae yna ardal anferth o’r Gymru wledig heb unrhyw gyswllt uniongyrchol gyda’r rhwydwaith rheilffyrdd,” meddai Adrian Kendon.

“Mae 46 o gynghorau cymuned yn cefnogi’r cynllun ac mae’r diwydiant coedwigaeth hefyd yn cefnogi – fe allai un trên gario gwerth 200 lorri o goed.”

Cwmni o’r enw Mott Macdonald fydd yn gwneud y gwaith ar ran Trafnidiaeth Cymru – roedd yr arolwg i fod wedi dechrau ym mis Mai.