Mae bron i 2,000 o fusnesau newydd yng Nghymru wedi elwa o fenthyciadau gwerth miliynau gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl ffigurau diweddaraf y Start Up Loans Company (SULCO), mae 1,943 o fusnesau newydd wedi derbyn gwerth dros £15m o fenthyciadau ers i’r gronfa gael ei sefydlu yn 2013.

Mae SULCO yn cael ei ddarparu’n rhannol gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru. 

Ar gyfartaledd mae pob cwmni wedi benthyg tua £8,000, ac yn ôl y ffigurau mae dau fusnes newydd o Gymru wedi bod yn elwa o’r cyllid bob dydd dros y pedair blynedd ddiwethaf.

Uchelgais a chyllid

“Ers y dechrau mae cronfa y Start Up Loans Company wedi cefnogi bron i 2,000 o fusnesau newydd yng Nghymru ac mae’n galonogol iawn gweld llwyddiant parhaus cwmnïau,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“[Cwmnïau gan gynnwys] yr arbenigwyr organig ar drin gwallt, Goji Hair yng Nghaerdydd, y cwmni gweithgareddau awyr agored, Waterfall Ways yng Nghastell-nedd, a Bite Wales – the Little Cheese Shop yn Sir Ddinbych.

“Mae eu storïau yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd awydd, uchelgais a gallu yn cyd-fynd â’r cyllid a’r cymorth cywir.”