Mae Banc Lloegr wedi anwybyddu galwadau gan ymgyrchwyr i roi’r gorau i ddefnyddio’r bumpunt newydd sy’n cynnwys braster anifeiliaid.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae’r Banc yn dweud y bydd y £20 newydd sydd ar y ffordd hefyd yn cynnwys yr un polymer, yn ogystal â fersiynau newydd o’r £10 a’r £5 yn y dyfodol.

Mae’r cemegyn ’tallow’ yn rhan o wead y papurau newydd ac yn eu gwneud nhw’n anodd iawn eu gwisgo a’u dinistrio. Tua 0.05% o gemegion y papurau newydd sy’n deillio o gynnyrch anifeiliaid.

Mae hyn wedi corddi ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid, ynghyd â phobol sy’n dilyn deiet fegan.

“Wedi ystyried yn ofalus, ac wedi ymgynghori’n helaeth, rydyn ni wedi penderfynu na fydd newid yn y polymer fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud arian papur y dyfodol,” meddai llefarydd ar ran Banc Lloegr.

“Mae’r penderfyniad hwn yn adlewyrchu nifer o ystyriaethau ac ofnau sydd wedi’u codi gan y cyhoedd. Mae hefyd yn ymwneud â chynaladwyedd, barn y rheiny sy’n eistedd ar bwyllgorau’r Banc, gwerth am arian, yn ogystal â’r nifer helaeth o nwyddau poblogaidd heddiw sy’n defnyddio cemegion sydd wedi’u deillio o gynnyrch anifeiliaid.”

Roedd 88% o’r rheiny a ymatebodd i’r ymgynghoriad wedi nodi eu bod nhw’n gwrthwynebu defnyddio cynnyrch anifeiliaid mewn arian papur.