(Llun: Mankiknd CCA2.0)
Mae Tesco wedi cyhoeddi ei fod am roi’r gorau i werthu bagiau plastic 5 ceiniog yn ei archfarchnadoedd a gwerthu “bagiau am oes” yn unig.

Fe fydd pob un o 3,500 o siopau’r cwmni yn y Deyrnas Unedig yn rhoi’r gorau i werthu’r bagiau untro am 5c o 28 Awst er mwyn annog eu cwsmeriaid i ddefnyddio llai o fagiau. Mae’r bagiau am oes yn costio 10c.

Fe fydd cwsmeriaid sy’n archebu ar-lein yn gallu parhau i brynu bagiau untro.

Dywed Tesco, er gwaetha ymdrechion y Llywodraeth i gyfyngu ar ddefnydd bagiau untro yn 2015, maen nhw’n dal i werthu 700 miliwn o’r bagiau 5c bob blwyddyn.

Fe fydd yr arian sy’n cael ei godi o werthiant y bagiau 10c yn ariannu prosiectau cymunedol mewn ysgolion, meddygfeydd a chlybiau pêl-droed lleol ar draws y DU, meddai Tesco.

Mae’r bagiau newydd wedi’u gwneud o blastig sydd wedi’i ail-gylchu ac fe ellir ei gyfnewid am fag newydd os oes angen.