Mae deunaw o brosiectau yng nghymunedau arfordirol Cymru wedi cael gwybod y byddan nhw’n elwa o grantiau gan Cronfa Loteri Fawr.
Mae’r holl grantiau werth £4 miliwn ac fe allan nhw arwain at 100 o swyddi newydd ynghyd â phedwar prentisiaeth.
Ymysg y prosiectau fydd yn elwa o’r grant mae cynllun ynni llanw yng Ngwynedd o gwmpas Ynys Enlli a Morlais, sef Nova Innovation.
Mae’r arian yn rhan o Gronfa Cymunedau’r Arfordir a gyflwynwyd yn 2012 gan Lywodraethau Cymru a’r DU i gefnogi prosiectau mewn ardaloedd arfordirol.
Prosiectau eraill…
Mae’r prosiectau eraill yn cynnwys Rheilffordd Cwm Rheidol rhwng Aberystwyth a Phontarfynach sydd wedi derbyn grant i adnewyddu’r trenau stêm.
Fe fydd cyfleuster hefyd yn cael ei ddatblygu yn Aberteifi i storio pysgod cregyn ynghyd â phrosiect i ehangu’r cwmni llaeth o Bwllheli, sef Llaethdy Llŷn.
Derbyniodd busnesau a chymunedau yn Sir Benfro arian i sefydlu cyfleuster potelu i Fragdy Bluestone a sefydlu pedair ystafell westy arnofiol ym Marina Aberdaugleddau, a bydd y cwmni Ice Cream Company yn Eryri yn cael arian i ddatblygu’r busnes.
Blwyddyn y Môr 2018
“Rydym yn lwcus iawn yng Nghymru fod gennym arfordir gwych sydd â golygfeydd ac atyniadau heb eu hail,” meddai Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gymunedau a Phlant.
“Mae’r gronfa hon yn helpu gwneud y defnydd gorau o nodweddion naturiol y cymunedau arfordirol hyn, yn ysgogi twf lleol ac yn cefnogi’r gwaith o greu swyddi,” meddai.
“Mae annog twristiaeth yn agwedd bwysig ar stori adfywio’r arfordir. Mae’n briodol felly bod y cyhoeddiad hwn yn dod yn fuan wedi i Groeso Cymru ddynodi mai ‘Blwyddyn y Môr’ fydd 2018.”