Mae siop Sports Direct ym Mangor wedi amddiffyn neges mewn arwyddion sy’n awgrymu eu bod nhw wedi gwahardd staff rhag siarad Cymraeg.

Mae’r arwydd, sy’n cael ei rannu ar wefan Twitter, yn dweud mai “Saesneg yw iaith swyddogol y cwmni”, a bod “rhai aelodau staff wedi bod yn siarad â’i gilydd mewn ieithoedd ac eithrio Saesneg”.

Mae’r nodyn yn “atgoffa staff fod rhaid iddyn nhw siarad Saesneg â’i gilydd bob amser” er mwyn i’r “holl staff ddeall ei gilydd”.

Mae’r polisi, meddai’r cwmni, yn cynnwys “sgyrsiau personol yn ystod oriau gwaith”.

‘Peryglon’

Wrth gyfiawnhau’r polisi, dywed yr arwydd fod siarad unrhyw iaith ac eithrio Saesneg yn achosi “amryw o beryglon… gan gynnwys iechyd a diogelwch”, a’i fod “er lles pawb fod staff yn deall ei gilydd bob amser”.

Serch hynny, dywed y cwmni y gall sgyrsiau preifat rhwng aelodau staff ar y safle y tu allan i oriau gwaith fod “yn newis iaith” y staff.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni wrth golwg360 fod yr arwydd yn “fwy perthnasol i’w siopau yn Lloegr na Chymru”.

Twitter

Mewn negeseuon sy’n dilyn neges wreiddiol Ben Screen ar Twitter, mae’n dweud bod rhywun yn “mynd i wneud cwyn” wrth Gomisiynydd y Gymraeg.