Porthladd Caergybi - y mwya' (Llun Awdurdod y Porthladd)
Gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd fygwth porthladdoedd Cymru ac achosi oedi ar y ffyrdd, yn adroddiad un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Does gan amryw o borthladdoedd Cymru ddim o’r adnoddau i ddelio â thollau a rheolau newydd, meddai’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.

Fe allai hynny, medden nhw, arwain at oedi hir a thagfeydd ar ffyrdd Cymru ac amharu ar fasnach.

Mae’r Pwyllgor yn cynnig sawl argymhelliad i Lywodraeth Cymru, ac yn galw arnyn nhw i ddechrau cynllunio’n fanwl ar gyfer porthladdoedd Cymru.

“Effaith andwyol”

Problem arall, yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor, David Rees, yw’r posibilrwydd o ffin galed rhwng Cymru a Gweriniaeth Iwerddon ond ffin feddal rhwng y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon.

Fe allai hynny olygu y byddai cwmnïau’n dewis mynd â nwyddau i Iwerddon trwy borthladdoedd yn yr Alban a’r Gogledd – mae’r holl longau o borthladdoedd Cymru’n hwylio i’r Weriniaeth.

“Byddai hyn yn cael effaith economaidd ddifrifol yng Nghymru,” meddai David Rees. “Ac mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau nad yw ein porthladdoedd a’n diwydiannau o dan anfantais annheg yn sgil Brexit.”

“Osgoi aflonyddwch”

“Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor ac mi fyddwn yn ystyried ei gynnwys cyn ymateb yn ffurfiol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Yn ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ rydym wedi amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer Brexit yn glir. Un o’r blaenoriaethau yw sicrhau na fydd tarfu ar fasnach.”