Llun Golwg360
Mae Llywodraeth Cymru’n gwadu honiadau eu bod nhw’n bwriadu preifateiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.

Ond mae’r undeb mwya’ yn y maes yn mynnu y bydd gweithwyr yn cael eu trosglwyddo o’r asiantaeth gyhoeddus Network Rali i gwmni preifat ac yn bygwth gweithredu.

Mae’r Llywodraeth wedi cydnabod mai’r cwmni trenau fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r lein, ond y bydd y trac a’r adnoddau eu hunain yn aros yn eiddo cyhoeddus.

Yn ôl undeb yr RMT, preifateiddio yw hynny.

Llythyr at Carwyn Jones

Mae’r RMT – Undeb Gweithwyr Rheilffyrdd, Môr a Chludiant – wedi sgrifennu llythyr at Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn honni bod yna benderfyniad eisoes wedi ei wneud i breifateiddio isadeileddau Network Rail yng Nghymru.

Fe fyddai hynny’n digwydd pan fydd trwydded newydd yn cael ei rhoi i gynnal gwasanaethau trenau yng Nghymru – yn y Cymoedd, meddai’r undeb, fe fyddai’r drwydded yn cynnwys gwaith cynnal a chadw ar y lein.

Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb, Mick Cash, mae’r RMT wedi ei “syfrdanu” a’i “siomi” at y ffaith bod awdurdod Llafur yn “hyd yn oed ystyried” y fath gynllun.

“Mae rhai o’n haelodau ni yn cael eu trosglwyddo o Network Rail, sy’n eiddo cyhoeddus, i weithredwr franchise preifat,” meddai.

Bygwth gweithredu

Mae wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o gydweithio gyda Llywodraeth y Torïaid yn Llundain ac yn bygwth gweithredu yn erbyn hynny.

“Mae’n hurt meddwl bod yr undeb hwn yn mynd i eistedd yn ôl tra bod cynlluniau yn cael eu gwneud am fuddsoddiad o £5 biliwn i roi rheilffordd Cymru yn nwylo cyfarwyddwyr preifat,” meddai.

“Mae angen i’r cynllun hwn gael ei rwystro ar unwaith, ac rydym yn rhoi’r cyfle i Carwyn Jones gamu yn ôl o’r dibyn.”