Mae dros filiwn o fenywod yn eu 60au mewn sefyllfa waeth yn ariannol yn sgil cynnydd i’r oedran pensiwn gwladol, yn ôl adroddiad newydd.

Gwnaeth economegwyr o’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) ddarganfod bod menywod rhwng 60 a 63 oed bellach ar gyfartaledd yn dlotach gan £32 bob wythnos.

Cynyddodd yr oedran ar gyfer hawlio pensiwn gwladol i fenywod yr oedran yma rhwng 2010 a 2016, gan arbed £5.1 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae’r newidiadau wedi hybu cyfraddau cyflogaeth – gan fod mwy o fenywod yn parhau i weithio – ac wedi arwain at gynnydd o £0.9 biliwn mewn refeniw treth i’r Llywodraeth.

“Teg a chynaladwy”

“Mae’r penderfyniad i gynyddu’r oedran pensiwn gwladol yn deg ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, ac yn cyd-fynd â’r cynnydd disgwyliedig mewn hyd oes dinasyddion Prydain,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau.

“Mae menywod sydd yn ymddeol heddiw yn parhau i fedru disgwyl pensiwn gwladol am dros 24.5 blynedd ar gyfartaledd – sydd yn hirach na chyfnod pensiwn pob cenhedlaeth flaenorol ac sydd yn hirach na’r cyfnod i ddynion.”