Fe fydd y tollau ar bontydd Hafren yn cael eu dileu erbyn diwedd y flwyddyn nesa’.

Fe gyhoeddodd Llywodraeth Prydain y byddan nhw’n cadw at addewid etholiad i gael gwared ar y tollau.

Mae busnesau a chyrff moduro wedi canmol y newid, gyda Llywydd yr AA, Edmund King, yn croesawu diwedd “y dreth ar Gymru”.

Ond mae rhai cwmnïau cludiant hefyd wedi codi ofnau y bydd cael gwared ar y tollau’n cynyddu defnydd yr M4 i mewn i dde Cymru ac yn achosi tagfeydd.

Gwerrth £100 miliwn meddai Alun Cairns

Fe fydd dileu’r tollau yn cynyddu ffyniant de Cymru a de-orllewin Lloegr, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, wrth wneud y cyhoeddiad.

Fe ddywedodd y byddai’r newid werth £100 miliwn y flwyddyn i economi Cymru.

Roedd yn rhoi arwydd clir ynglŷn â dyfodol busnesau yng Nghymru, meddai, ac fe fyddai’n cael gwared ar rwystr i drafnidiaeth.

Y ffeithiau

Fe fydd y newid yn dod ar ddiwedd cytundeb rhwng Llywodraeth Prydain a chwmni o’r enw, Severn Crossings plc – fe gawson nhw’r hawl i godi’r tollau adeg codi ail bont Hafrenchwarter canrif yn ôl.

Mae tua 25 miliwn o gerbydau’n croesi’r ddwy bont bob blwyddyn a chwmni trafnidiaeth fel Owens o Lanelli yn gwario tua £8,000 yr wythnos ar dollau.

Pan agorodd y bont gynta’ yn 1966, dim ond hanner coron, neu 12.5c, oedd y doll i geir – mae bellach yn £6.70 ac yn £20 i lorïau a bysus.

Llun: Ail Bont Hafren (hawlfraint agored)