Roedd chwyddiant wedi gostwng fis diwethaf wrth i’r gostyngiad ym mhrisiau petrol a disel a gemau cyfrifiadurol ysgafnhau’r pwysau ar wariant pobl.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant, wedi gostwng i 2.6% ym mis Mehefin, o 2.9% ym mis Mai.

Er bod y gostyngiad yn is na disgwyliadau economegwyr o 2.9%, roedd costau byw yn parhau’n uwch na tharged Banc Lloegr o 2%.

Daeth y gostyngiad mwyaf mewn costau byw wrth i brisiau petrol a disel ostwng am y pedwerydd mis yn olynol, o 1.1% rhwng mis Mai a Mehefin.

Roedd y Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), sy’n fesur ar wahân ar gyfer chwyddiant, wedi cyrraedd 3.5% fis diwethaf, o 3.7% ym mis Mai.