Mae cwmni o Sbaen sydd yn cynhyrchu offer a cherbydau rheilffyrdd wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu creu 300 o swyddi yng Nghymru.

Ar ôl ystyried cant o safleoedd ledled y Deyrnas Unedig, mae Construcciones y Auxiliar de Ferrocarriles (CAF) wedi dewis Parc Busnes Celtic yng Nghasnewydd ar gyfer ei ganolfan newydd.

 chymorth grant gan Lywodraeth Cymru, bydd £30m yn cael ei fuddsoddi yn y ganolfan – y cyntaf o’r math yng Nghymru.

Bydd y cwmni’n defnyddio’r cyfleuster newydd i gydosod, profi a chomisiynu cerbydau newydd ac mae’n debyg bod lle er mwyn ehangu’r safle yn y dyfodol.

“Potensial aruthrol”

“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan CAF a Llywodraeth Cymru yn sylfaen ar gyfer datblygu sector y rheilffyrdd yng Nghymru a bydd yn rhoi lle canolog inni mewn diwydiant sydd â photensial aruthrol i dyfu,” meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.

“Yn ogystal â chreu 300 o swyddi o’r calibr uchaf, bydd yn cyd-fynd hefyd â buddsoddiad anferth Llywodraeth Cymru ym Metro’r de-ddwyrain.

“Caiff manylion hwnnw eu cyhoeddi ymhen rhai wythnosau.”