Hufenfa De Arfon
Mae cwmni cydweithredol cynnyrch llaeth o Bwllheli wedi cofnodi eu blwyddyn orau eto o ran elw yn arwain at fis Mawrth 2017.

Llwyddodd Hufenfa De Arfon i sicrhau elw o £3 miliwn (9%) ar £33.1m  o werthiannau – sy’n cymharu â £389,000 (1.2%) ar werthiannau o £31.7 miliwn y llynedd.

Yn eu hadroddiad blynyddol, a gafodd ei anfon at y 127 o ffermwyr sy’n rhanddeiliaid gyda’r cwmni, maen nhw’n nodi bod cynnydd proffidiol nwyddau llaeth yn ail hanner y flwyddyn wedi cyfrannu at yr elw.

‘Twf pellach’

“Mae’r canlyniadau ar gyfer y cyfnod hwn yn plesio’n fawr ac yn adlewyrchiad o’r cynnydd mae’r cydweithrediad wedi’i wneud yn eu holl weithgareddau yn y blynyddoedd diwethaf,” meddai Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon.

Dywedodd mai eu bwriad yn awr yw “sicrhau bod gwelliant ein perfformiad yn gynaliadwy yn y tymor hir er budd ein holl berchnogion ffermwyr a staff.”

“Mae gennym strategaeth glir am dwf pellach,” meddai gan ddweud eu bod am ehangu ym maes llaeth o Gymru.

Yn ogystal mae 130 o staff llawn amser yn gweithio i’r cwmni, sy’n gynnydd o 30 ers y llynedd.