Cylchffordd Cymru
Mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Adam Price wedi cyhuddo Gweinidog yr Economi, Ken Skates o osgoi craffu ar Gylchffordd Cymru.

Mae Ken Skates wedi gwrthod ateb cwestiynau ar y mater tan bod gwybodaeth ’diwydrwydd dyladwy’ briodol yn cael ei chyhoeddi dros yr haf.

Ond mae Adam Price yn mynnu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn destun craffu priodol ynghylch y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â’r mater, ac na ddylid gadael iddyn nhw “gelu” eu record drwy wneud cyhoeddiad yn ystod gwyliau’r Cynulliad.

Mae arweinydd Plaid Cymru, wedi gofyn i Lywydd y Cynulliad, Elin Jones ymyrryd, gan ei fod “o bwys mawr iawn i’n sefydliad, cymunedau Blaenau Gwent a Chymru gyfan”.

Ychwanegodd Leanne Wood yn ei llythyr ei bod yn “bryderus y bydd safbwynt y llywodraeth yn atal craffu seneddol ar ddiwydrwydd dyladwy a’r modd y mae’r llywodraeth wedi trin y prosiect”.

Mae hi wedi gofyn am gael “dwyn y dyddiad cyhoeddi ymlaen” a “chadw’r hawl i alw’r Cynulliad yn ôl” pe bai rhagor o wybodaeth yn dod i law yn ystod gwyliau’r Cynulliad.

‘Amaturaidd’

Mae Adam Price wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r broses graffu mewn modd “amaturaidd”.

“Allwn ni ddim caniatáu iddynt gyhoeddi eu diwydrwydd dyladwy yn ystod y gwyliau pan nad yw’r Cynulliad mewn sesiwn i graffu ar eu perfformiad. Mae’r pwnc hwn yn rhy bwysig o lawer – allwn ni ddim gadael i’r llywodraeth Lafur ei gladdu.

“Dros yr wythnos ddiwethaf, dangosodd adroddiadau a ddatgelwyd fod swyddogion y llywodraeth wedi bod yn amaturaidd wrth drin y broses hon, fod swyddogion Cylchffordd Cymru wedi eu camarwain gan y llywodraeth, a bod y Prif Weinidog wedi rhoi sylwadau camarweiniol i’r cyfryngau ar y mater hwn.

“Gobeithio y bydd y Llywydd yn ymateb i lythyr Leanne Wood ac yn ymyrryd fel y gorfodir y llywodraeth i ateb cwestiynau am eu penderfyniadau; dyma’r lleiaf y mae pobl Blaenau Gwent a phobl Cymru yn haeddu. Os yw hynny’n golygu galw’r Cynulliad yn ôl o’i wyliau, bydded felly.

“Beth sydd gan Lywodraeth Cymru i’w guddio? Mae’n bryd cael atebion.”