Michel Barnier
Gallai busnesau fel Airbus yng ngogledd Cymru wynebu “cyfyngiadau” newydd o ran symud staff a chynnyrch yn sgil Brexit, yn ôl Prif Drafodwr y Comisiwn Ewropeaidd.

Fe gyfeiriodd Michel Barnier yn benodol at y ffatri awyrennau ym Mrychdyn, Sir y Fflint, yn ystod cyfarfod pwyllgor ym Mrwsel heddiw (Gorffennaf 6), lle bu’n rhannu’r diweddaraf am Brexit gydag undebau llafur a grwpiau eraill.

Mae’n debyg y gall busnesau Prydeinig sydd yn allforio eu cynnyrch wynebu biwrocratiaeth bellach ynglyn â’u datganiadau treth ar werth, ac mi fydd yna reolau newydd yn ymwneud â ffiniau wrth symud ‘nwyddau byw’.

“Pawb yn colli”

“Fe fydd goblygiadau negyddol yn sgil Brexit,” meddai Michel Barnier yn y cyfarfod, “ond fydd rhain ddim yn deillio o awydd Ewrop i gosbi y Deyrnas Unedig.”

Ychwanegodd y gallai Brexit arwain at sefyllfa lle “bydd pawb yn colli” os na fydd dêl yn cael ei sefydlu rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig.

Daw ei sylwadau fel gwrthodiad llwyr o safiad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, sydd wedi mynnu y byddai “dim dêl yn well na dêl wael”.