Mae cynhadledd fusnes yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd heddiw i drafod yr effeithiau ar Gymru o ddatblygu trydedd llain lanio ym maes awyr Heathrow.

Mae disgwyl i 90 o fusnesau o Gymru ymgasglu yn Stadiwm Dinas Caerdydd i glywed cynlluniau’r prosiect sydd wedi’i amcangyfrif i gostio £16bn.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, fe allai Cymru fanteisio ar y cyfleoedd o ehangu’r maes awyr gan ddatblygu “cysylltiadau Cymru gyda gweddill y byd, cefnogi allforion, masnach a chyfloedd swyddi”.

Ychwanegodd mai “ehangu Maes Awyr Heathrow yw’r symudiad cywir i gwmnïau Cymreig, teithwyr o Gymru ac i’n cymunedau.”

‘Cyfleoedd’ Maes Awyr Caerdydd

Mae Ysgrifennydd yr Economi Llywodraeth Cymru, Ken Skates, hefyd yn gefnogol i’r cynllun.

“Rydym am weithio’n adeiladol gyda Heathrow a’u cyflenwyr haen 1 er mwyn gwneud yn siŵr bod busnesau o Gymru’n cael chwarae eu rhan wrth gynnal y prosiect anferth hwn a fydd yn creu hyd at 8,400 o swyddi crefftus newydd ac yn rhoi £6.2bn o hwb i’r economi,” meddai.

“Rwy’n falch iawn gweld hefyd y bydd Maes Awyr Caerdydd yn bresennol yn y gynhadledd.

“Bydd hynny’n helpu Busnesau bach a chanolig Cymru i ddeall anghenion ein Maes Awyr Cenedlaethol ac yn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r cyfleoedd y bydd prosiectau yn y dyfodol ym Maes Awyr Caerdydd yn gallu eu cynnig i’r gadwyn gyflenwi.”

Heathrow

Cafodd y cynnig i greu trydedd llain lanio yn Heathrow ei gymeradwyo ym mis Hydref y llynedd.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar y mater yn ystod gaeaf 2017/18.