Efallai nad ydyn nhw’n fodlon dweud os oes rhywun wedi prynu papur newydd Y Cymro, ond mae’r perchnogion, Tindle Newspapers, wedi casglu hysbysebion ar gyfer eu rhifyn olaf nhw wrth y llyw.

Pan gyhoeddodd y cwmni, ym mis Mawrth eleni, fod y papur newydd wythnosol Cymraeg ar werth, fe gyhoeddwyd mai rhifyn Mehefin 30 eleni fyddai’r olaf, ac mai dyna’r dedlein ar gyfer prynu’r teitl.

Ddechrau’r mis hwn, mewn ymateb i ymholiadau gan golwg360, fe ddywedodd y cwmni “nad oedd mewn sefyllfa i wneud sylw” am brynwr newydd. Yr awgrym oedd y gallai cyhoeddiad ddod “tua diwedd y mis”.

Ond fe ddaeth cadarnhad i hysbysebwyr yr wythnos hon, wrth iddyn nhw dderbyn negeseuon ebost gan adain farchnata’r cwmni yn Aberystwyth ddydd Mawrth, Mehefin 20, yn dweud fel hyn:

“Efallai eich bod yn ymwybodol bod Tindle Newspapers Ltd wedi rhoi Y Cymro ar werth. Yr wythnos nesaf fydd y rhifyn olaf y byddwn yn ymwneud ag ef. Hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth dros y blynyddoedd, mae wedi cael ei werthfawrogi’n fawr.”