Felin Cochwillan, Gwynedd (Llun: Post Brenhinol/ PA Wire)
Mae melin flawd o Wynedd wedi’i chynnwys ar gyfres newydd o stampiau sy’n cofnodi hanesion rhai o felinau amlycaf gwledydd Prydain.

Bwriad y Post Brenhinol yw “dathlu diwylliant amaethyddol a diwydiannol cyfoethog y tirnodau hyn.”

Mae Felin Cochwillan wedi’i lleoli’n agos at Afon Ogwen ger pentref Tal-y-bont ym Mangor gyda chyfeiriadau cyntaf at felin ar y safle hwnnw’n dyddio’n ôl i 1560.

Mae’n debyg i’r adeilad presennol gael ei adeiladu tua 200 mlynedd yn ôl.

Melinau eraill

Mae’r melinau eraill sy’n rhan o’r gyfres yn cynnwys melinau gwynt Nutley yn Nwyrain Sussex, Woodchurch yng Nghaint, Ballycopeland yn County Down ynghyd a melinau blawd yn Dumfries a Galloway.

“Mae melinau gwynt a melinau dŵr y Deyrnas Unedig yn dirnodau hoffus iawn ac yn ein hatgoffa o ddiwylliant amaethyddol a diwydiannol cyfoethog,” meddai llefarydd ar ran y Post Brenhinol.