Awyren British Airways
Mae pennaeth y cwmni sy’n berchen British Airways (BA) wedi awgrymu mai aelod o staff oedd yn gyfrifol am fethiant cyfrifiadurol wnaeth achosi problemau i 75,000 o deithwyr fis diwethaf.

Yn ôl Prif Weithredwr International Airlines Group, Willie Walsh, cafodd y broblem ei achosi gan beiriannydd wnaeth ailgysylltu cyflenwad pŵer eu sustem Technoleg Gwybodaeth mewn modd “afreolus.”

Bu’n rhaid gohirio teithiau miloedd o deithwyr am nifer o ddyddiau.

Cafodd BA ei gyhuddo gan undeb y GMB o fod yn farus yn sgil y digwyddiad gan ddadlau mai toriadau staff oedd yn rhannol gyfrifol.

Yn ystod cynhadledd ym Mecsico, ymddiheurodd Willie Walsh am y digwyddiad gan nodi: “Fe wnaethom ni fethu a chyfathrebu yn iawn.”