Abertawe
Mae disgwyl i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Dinas a Sir Abertawe gymeradwyo cynlluniau heddiw i ddod â’r cynlluniau i adnewyddu canol y ddinas gam yn nes.

Daw hyn yn dilyn adroddiad ac ymgynghoriad sydd wedi asesu goblygiadau’r cynllun o adnewyddu ardal Dewi Sant y ddinas yn ganolfan siopa gyda sinema, swyddfeydd a thai.

Y bwriad yw adnewyddu’r ardal honno ynghyd â’r tir i’r gogledd a’r de o Heol Ystumllwynarth a chanol y ddinas gan greu pont droed i gysylltu’r ddwy, gyda meysydd parcio aml-lawr.

Un o brif argymhellion yr ymgynghoriad oedd ceisio denu siopau mawr i’r ardal, ond mae’r adroddiad yn awgrymu y gallai hynny fod yn her.

Mae disgwyl i’r cyngor ystyried materion ynglŷn ag atal llifogydd, llif dŵr ac effaith llygredd aer, sŵn a golau’r datblygiad.