RBS (Llun: David Edgar CCA3.0)
Mae camau cyfreithiol yn erbyn Banc Brenhinol yr Alban (RBS)  yn yr Uchel Lys wedi cael eu gohirio am 24 awr er mwyn cynnal trafodaethau pellach gyda chyfranddalwyr.

Cafodd yr achos ei ohirio yn dilyn gwrandawiad yn y llys yn Llundain heddiw.

Mae 9,000 o fuddsoddwyr ac 18 o sefydliadau a gollodd arian ar ôl i’r busnes bron a dymchwel, wedi dwyn achos yn erbyn y banc i geisio hawlio iawndal o £700 miliwn.

Maen nhw’n honni eu bod nhw wedi cael eu camarwain ac roedd disgwyl i gyn-bennaeth y banc Fred Goodwin amddiffyn ei rôl yn ystod yr argyfwng ariannol.