Banc RBS Llun: PA
Fe fydd Banc Brenhinol yr Alban (RBS) yn dod o dan y chwyddwydr heddiw pan fydd yn wynebu brwydr gostus yn yr Uchel Lys gyda chyfranddalwyr.

Yn ystod yr achos llys yn Llundain, mae disgwyl i gyn-bennaeth y banc Fred Goodwin amddiffyn ei rôl yn ystod yr argyfwng ariannol pan fu bron i’r banc fethu.

Mae disgwyl i’r achos bara am 14 wythnos.

Mae 9,000 o fuddsoddwyr ac 18 o sefydliadau a gollodd arian wedi dwyn achos yn erbyn y banc i geisio hawlio iawndal o £700 miliwn.