Tobogan Zipworld ym Metws-y-coed (Llun: Zipworld)
Bydd plant ysgol yn cael y cyfle i brofi atyniad tobogan newydd yn Nyffryn Conwy heddiw.

Mi fydd 50 o blant o ysgolion Ysgol Dyffryn Conwy ac Ysgol St Gerards ym Mangor, yn heidio i safle Zipworld ym Metws-y-Coed er mwyn profi’r atyniad newydd.

Mae’r reid yn plethu trwy 1km o goedwigoedd, yn medru cyrraedd cyflymder o 25 milltir yr awr a dyma’r unig atyniad o’i fath yn y Deyrnas Unedig.

Bydd yr atyniad yn agor yn swyddogol ddydd Mercher ond mae plant yr ardal wedi derbyn gwahoddiad arbennig i gael profi’r tobogan o flaen llaw.

Mae safle Coedwig Zipworld ym Metws-y-Coed eisoes yn gartref i swing uchaf Ewrop a thaith zip line trwy’r coed.