Papur newydd The Sun Llun: PA
Mae adroddiadau y gallai cyn-olygydd  The Sun adael y papur newydd yn dilyn ei sylwadau dadleuol am chwaraewr pêl-droed Everton yn ei golofn fis diwethaf.

Fe wnaeth Kelvin Mackenzie gymharu Ross Barkley, sydd â theulu’n hanu o Nigeria, â gorila.

Cafodd y golofn ei hargraffu yn rhifyn Ebrill 14, ac fe wnaeth y papur gyhoeddi ymddiheuriad wedi hynny gan ddweud nad oedden nhw’n ymwybodol o gefndir teuluol Ross Barkley ac “ni fwriadwyd unrhyw sarhad.”

Mae Kelvin Mackenzie yn parhau wedi’i wahardd o’r papur, ac yn ôl adroddiadau fe allai ei ddyfodol gyda’r papur newydd gael ei benderfynu’r wythnos hon.

Kelvin MacKenzie oedd golygydd The Sun pan oedd y papur yn cyhoeddi penawdau am gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl yn dilyn trychineb Hillsborough yn 1989.