Frances O'Grady (Johninnit CCA4.0)
Mae peryg y bydd hawliau gweithwyr yn diodde’ ar ôl Brexit, a hynny’n gwneud drwg i’r economi hefyd.

Dyna’r honiad mewn adroddiad gan gyngres undebau llafur, y TUC, sy’n dweud y byddai swyddi sgiliau isel mewn peryg neilltuol.

Y bygythiad, meddai’r TUC, yw fod economi Prydain yn mynd yn un “gwerth isel” a hynny’n arwain at “ras tua’r gwaelod”.

‘Rhaid amddiffyn hawliau’

Mae’r TUC yn honni bod hawliau cadarn i weithwyr yn gallu helpu i ddenu buddsoddiadau, tra byddai economi ‘rad’ yn arwain at gystadleuaeth ddinistriol gyda’r Undeb Ewropeaidd.

“Os na fyddwn ni’n gosod amddiffynfa gref i weithwyr wrth wraidd ein cytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd, fe allai Prydain droi’n economi rad,” meddai Frances O’Grady, Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC.

“R’yn ni eisoes wedi gweld economi sgil-isel, cynnyrch-isel yn datblygu ac mae hynny’n gadal llawer o bobol mewn swyddi di-gyfle. Byddai cael gwared ar amddiffynfeydd i weithwyr yn cynyddu’r duedd yna.”