Llai yn prynu ceir newydd

 


Fe gafodd 20% yn llai o geir newydd ei gwerthu’r mis diwethaf yn dilyn newidiadau mewn trethi, yn ôl ffigurau’r diwydiant.

Cafodd 152,076 o geir newydd eu cofrestru ym mis Ebrill, meddai Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Cerbydau Modur.

Fe wnaeth llawer o bobol brynu eu ceir ym mis Mawrth, cyn i dreth newydd ddod i rym ar 1 Ebrill, yn ôl y corff masnachu.

Mae treth ychwanegol ar bob car newydd bellach – oni bai am y rhai sydd heb allyriadau carbon.

Gyrwyr yn talu mwy

Yn ôl ymchwil gan RAC, mae’r rhan fwyaf o yrwyr ceir newydd bellach yn talu llawer yn fwy yn dilyn y newid.

Bu cynnydd o 8% yng ngwerthiant ceir ym mis Mawrth i 562,337, o’i gymharu â’r un mis y llynedd, sef y gwerthiant misol mwyaf sydd erioed wedi cael ei gofrestru.

Er gwaetha’r lleihad fis diwethaf, bu cynnydd o 1% yn nifer y ceir sy’n cael eu cofrestru yn ystod pedwar mis cyntaf 2017 o gymharu â 2016.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd