Mae cwmni olew BP wedi gwneud elw yn ystod tri mis cynta’r flwyddyn o ganlyniad i gynnydd mewn prisiau olew ac ymdrechion i dorri costau.

Dywed y grŵp eu bod wedi sicrhau elw drwy gostau amnewid o £1.1 biliwn ar gyfer chwarter gynta’r flwyddyn o gymharu â cholledion o £377 miliwn y flwyddyn gynt.

Maen nhw hefyd wedi gweld cynnydd o 5% mewn cynhyrchiant ac yn ôl Bob Dudley, Prif Weithredwr grŵp BP – mae’r flwyddyn wedi “dechrau’n dda.”

“Mae BP yn canolbwyntio ar gyflawni’n ddisgybledig ein cynlluniau. Roedd enillion y chwarter cyntaf a’r llif arian yn gadarn,” meddai.

Mae cystadleuwyr yn yr Unol Daleithiau, Exxon Mobil a Chevron, hefyd wedi gweld cynnydd mewn enillion ac mae disgwyl i Royal Dutch Shell gyhoeddi eu hadroddiadau nhw ddydd Iau.

Daw hyn wrth i brisiau olew crai gynyddu gyda’r diwydiant yn profi llwyddiant ar ôl cwymp o bron i 13 mlynedd y llynedd.