Cynllun 'Cylchffordd Cymru'
Mae Llywodraeth Cymru wedi methu â rheoli’r risgiau i drethdalwyr wrth ddatblygu cylchffordd rasio moduron yng Nglynebwy, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Hyd yma mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9.3 o arian y trethdalwr i gefnogi datblygiad y gylchffordd rasio moduron yng Nglynebwy, ac mae’n debyg eu bod wedi cytuno i dalu £16m o gyllid pellach.

Yn ôl yr adroddiad, methodd Llywodraeth Cymru â chymryd y camau priodol i ddiogelu arian y cyhoedd, ac mae’n debyg nad oedd gweinidogion yn gwybod digon am y cwmnïau oedd ynghlwm â’r prosiect.

Caiff pum argymhelliad ei gynnig yn yr adroddiad gan gynnwys sicrhau bod cwmnïau sydd am ddefnyddio arian cyhoeddus yn nodi os ydyn nhw am ei wario trwy gwmnïau cysylltiedig.

“Diffygion sylweddol”

“Gall defnyddio arian cyhoeddus i gefnogi prosiectau seilwaith preifat yng Nghymru helpu i roi hwb i waith adfywio a datblygu economaidd. O wneud hyn, rhaid rheoli cyllid cyhoeddus mewn ffordd gadarn, gan arddel safonau priodol o ran craffu, gwyliadwriaeth a throsolwg,” meddai’r Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas.

“Yn achos Cylchffordd Cymru, mae’n anffodus ein bod wedi cael hyd i ddiffygion sylweddol, ac felly mae angen i Lywodraeth Cymru ddysgu o’r adroddiad, yn enwedig os bydd yn penderfynu darparu unrhyw gymorth pellach er mwyn i’r prosiect fynd rhagddo.”

Synnu a siomi”

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb trwy feirniadu amseriad cyhoeddiad yr adroddiad ac yn mynnu eu bod wedi asesu’r risg yn ddigonol.

“Rydym yn synnu ac wedi’n siomi at benderfyniad Archwilydd Cyffredinol Cymru i gyhoeddi’r adroddiad hwn o fewn cyfnodau cyn etholiadau.

“Rydym hefyd yn siomedig nad oes sylw wedi’i roi i nifer o bryderon allweddol ynghylch cynnwys a chasgliadau’r adroddiad cyn iddo gael ei gyhoeddi.

“Er enghraifft, mae’r adroddiad yn cyfeirio sawl gwaith at ein cytundeb i ddarparu gwerth £16 miliwn o Gyllid Busnes Ad-daladwy i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd, ond nid yw’n cydnabod y ffaith ein bod wedi tynnu’r cynnig hwnnw yn ôl.”