Awyren Qatar Airways (Llun: Julian Herzog CCA 4.0 International)
Mae cwmni awyr Qatar Airways wedi cyhoeddi eu bod yn lansio teithiau awyr o Gaerdydd i’r Dwyrain Canol.
Bydd y gwasanaeth o Faes Awyr Caerdydd yn cysylltu’r brifddinas â Maes Awyr Rhyngwladol Hamad yn Doha, Qatar.
Hwn fydd y gwasanaeth cyntaf i gysylltu Cymru a de orllewin Lloegr ag ardal y Gwlff, a’r gobaith yw y bydd yn annog twristiaeth o’r rhanbarth.
Maes Awyr Hamad yw un o feysydd awyr mwyaf y byd ac mae’n debyg bod 30 miliwn o deithwyr yn teithio oddi yno bob blwyddyn.
“Cysylltiadau i Gymru”
“Mae hyn yn newyddion gwych i Faes Awyr Caerdydd ac i Gymru,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
“Bydd y llwybr newydd, a’r berthynas rhwng Maes Awyr Caerdydd a Qatar Airways, yn agor cysylltiadau i Gymru â gweddill y byd a’n darparu cyfleoedd teithio, economaidd, a hamdden newydd i fusnesau a phobl Cymru.”
“Perthynas newydd”
“Mae’r cyhoeddiad yma wir yn newid pethau i Faes Awyr Caerdydd ac i Gymru,” meddai Cadeirydd Maes Awyr Caerdydd, Roger Lewis.
“Bydd manteision y berthynas yn drawsffurfiol i fusnesau ac i deithwyr dros dde orllewin Lloegr ac yng Nghymru.”