Ken Skates
Mae cwmni awyrennau Marshall Avation Services wedi cadarnhau eu bod am gau eu ffatri yn Sir y Fflint ar ôl iddyn nhw fethu a dod o hyd i brynwr.

Dechreuodd cyfnod ymgynghori 45 diwrnod o hyd fis diwethaf pan gyhoeddodd Marshall Avation Services eu bod yn bwriadu cau’r safle.

Mae’r safle ym Mrychdyn yn cyflogi 126 o bobol.

“Parhau i fod yn optimistaidd”

Mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo gweithwyr sydd wedi cael eu heffeithio.

“Rydym yn gweithio â phartneriaid yng Nghyngor Sir y Fflint, Job Centre Plus a Gyrfaoedd Cymru er mwyn cynnig cyngor a chymorth i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio,” meddai. “Mae ein cynllun ReAct hefyd yn darparu cronfa ar gyfer hyfforddi lle mae angen.

“Mae’r gweithlu yn un hynod o fedrus ac mewn maes lle mae galw mawr am arbenigedd peirianneg awyrofod. Rydym yn parhau i fod yn optimistaidd y bydd y rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y penderfyniad yn medru cael eu hail gyflogi yn fuan.”