Llun: PA
Mae cyfradd chwyddiant wedi aros ar yr un lefel â mis Chwefror, sef 2.3%, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dyma’r lefel uchaf ar gyfer y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI), sy’n mesur chwyddiant, ers mis Medi 2013.

Mae’n parhau yn uwch na tharged Banc Lloegr o 2% sy’n debygol o roi pwysau ar Bwyllgor Polisi Ariannol y Banc (MPC) i godi cyfraddau llog yn uwch na 0.25% eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ONS fod costau bwyd, diod a dillad wedi codi yn ystod mis Mawrth.

“Doedd dim llawer o newid mewn costau deunyddiau crai a phris nwyddau sy’n cael eu gweithgynhyrchu wrth adael y ffatrïoedd, a bu cwymp ym mhrisiau tanwydd yn help i atal cynnydd pellach,” meddai’r llefarydd.