Banc Lloegr Llun: PA
Mae gwleidyddion wedi galw ar Lywodraeth Prydain i gynnal ymchwiliad i’r adroddiadau fod Banc Lloegr wedi bod ynghlwm â ‘chamddefnyddio cyfraddau Libor’.

Mae rhaglen Panorama’r BBC wedi datgelu recordiad sain o 2008 rhwng un o reolwyr banc Barclays a Libor yn awgrymu fod y banc yn rhoi pwysau ar y benthycwyr i ostwng y gyfradd.

Yn ôl canghellor yr wrthblaid, John McDonnell, mae’r honiadau’n “bwrw amheuon dros sefydliadau ariannol Prydain.”

‘Cynorthwyo’r ymchwiliadau’

Yn ôl y BBC, mae’r recordiadau’n codi amheuon am y dystiolaeth a roddwyd i Bwyllgor Dethol y Trysorlys yn 2012 gan gyn-bennaeth Barclays Bob Diamond a Paul Tucker.

“Nid oedd Libor a meincnodau byd-eang eraill yn cael eu rheoleiddio yn y Deyrnas Unedig nac yn unrhyw le arall yn ystod y cyfnod hwn,” meddai llefarydd ar ran Banc Lloegr wrth ymateb i’r honiadau.

“Er hyn, mae Banc Lloegr wedi cynorthwyo’r Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) gyda’u hymchwiliadau troseddol i driniaeth Libor gan gyflogai mewn banciau masnachol a delwyr drwy ddarparu, yn wirfoddol, ddogfennau a recordiadau ar gais yr SFO,” ychwanegodd.

  • Mae Libor yn sefyll am London Interbank Offered Rate. Dyma’r gyfradd y mae banciau yn benthyg i’w gilydd, ac mae’n cael ei ddefnyddio hefyd ar gyfer trafodion ariannol tramor cymhleth. Mae’n cael effaith ar gyfraddau morgeisi a benthyciadau eraill.