Barclays Llun: PA
Mae pennaeth Barclays yn wynebu ymchwiliad a cholli rhan helaeth o’i gyflog ar ôl iddo geisio dod o hyd i’r person oedd wedi anfon llythyr dienw  at fwrdd y banc.

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ac Awdurdod Rheoleiddio Prudential (PRA) wedi dechrau ymchwiliad i ymddygiad  Jes Staley a’i gyfrifoldeb fel uwch-reolwr. Mae’n ymwneud a pholisi’r banc o ran datgelu manylion.

Yn dilyn ymchwiliad annibynnol mae Barclays hefyd wedi penderfynu rhoi rhybudd ysgrifenedig i Jes Staley a sicrhau ei fod yn colli “cyfran sylweddol” o’i gyflog.

Mae’r digwyddiad yn ymwneud a llythyr dienw a gafodd ei anfon at fwrdd Barclays ac aelod arall o staff yn 2016 a oedd yn codi pryderon am uwch-swyddog a oedd newydd gael ei benodi, a rôl Jes Staley yn ystod y broses recriwtio.

“Camgymeriad”

Ar ôl iddo dderbyn copi o’r llythyr cyntaf a dod yn ymwybodol o ail lythyr, roedd Jes Staley wedi gofyn i swyddogion diogelwch Grŵp Gwybodaeth Barclays i geisio adnabod yr awduron gan ei fod yn eu hystyried yn “ymosodiad personol ac annheg” ar yr aelod o staff, meddai’r banc.

Dywedodd Barclays bod Jes Staley yn credu bod hawl ganddo i adnabod awdur y llythyr.

Ond daeth y bwrdd i’r casgliad bod Jes Staley wedi “gwneud  camgymeriad” drwy fod yn gysylltiedig â’r mater ac nad oedd wedi dilyn y drefn briodol i ddelio a’r mater.

Mae Jes Staley wedi ymddiheuro wrth y bwrdd.

Mae’r banc yn cynnal adolygiadau annibynnol o’i brosesau a rheoliadau, gan gynnwys y rhaglen datgelu manylion (“whistleblowing”).