Car newydd Aston Martin, DBX, (Llun: PA)
Bydd gwerth £60m o gytundebau gan gwmni ceir Aston Martin ar gael i fusnesau Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dyma’r tro cyntaf i gontractau sector preifat gael eu hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru, sef gwefan sy’n cynorthwyo busnesau Cymreig i ddod o hyd i gyfleoedd i ddarparu nwyddau, gwaith, neu wasanaethau.

Daw’r newyddion yn sgil cyhoeddiad Aston Martin y flwyddyn ddiwethaf, ei bod am ddatblygu hen safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan gyda’r bwriad o gyflogi 750 o bobol cyn 2020.

Cwmni TRJ o Rydaman yw’r cwmni cyntaf yng Nghymru i ennill contract yn gysylltiedig â safle’r cwmni yn Sain Tathan.

“Hwyluso pethau i fusnesau”

“Mae’n bleser i fi gyhoeddi ein bod bellach wedi agor ein sianel gaffael GwerthwchiGymru i Aston Martin,” meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

“Mae hyn yn hwyluso pethau i fusnesau bach a chanolig o Gymru sydd am geisio am y contractau dirifedi y mae Aston Martin yn eu hysbysebu ar gyfer gwaith ar eu safle yn Sain Tathan.”

Mae Aston Martin eisoes yn cyflogi dros 40 o weithwyr yng Nghymru ar safle Gaydon.