Safle Wylfa Newydd, (Llun: Horizon)
Mae’r cwmni pŵer niwclear, Horizon, wedi cadarnhau heddiw eu bod wedi cyflwyno cais am drwydded safle at Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ar gyfer Wylfa Newydd.

Mae Horizon yn disgrifio’r cais hwn fel “carreg filltir” a “cham mawr ymlaen” gyda disgwyl i’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear asesu’r drwydded dros gyfnod o 19 mis cyn dod i benderfyniad erbyn diwedd 2018.

Bydd y Swyddfa yn ystyried a ydy Horizon yn addas i adeiladu a gweithredu cyfleuster niwclear ar safle Wylfa Newydd ar Ynys Môn.

Y drwydded

Fel rhan o’r drwydded, bydd yn rhaid i Horizon ddiwallu 36 o amodau o ran gweithredu a datgomisiynu – ac os bydd y drwydded yn cael ei chymeradwyo fe fydd Horizon yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear dros oes gyfan y safle.

“Mae cyhoeddiad heddiw yn ddatblygiad o bwys yn aeddfedrwydd a thwf Horizon wrth i ni baratoi i adeiladu ac i weithredu ein prif safle yn Wylfa Newydd,” meddai Anthony Webb, Cyfarwyddwr Diogelwch a Thrwyddedu Horizon.